Rheol Sefydlog 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad

2 (i)               Cyflwyno Biliau Preifat (RhS 26A.1 - 26A.14)

 

Rheol Sefydlog 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad

Teitl y Rheol Sefydlog newydd

Biliau Preifat

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.1 At ddibenion Rheol Sefydlog 26A, mae Bil Preifat yn Fil a gyflwynir er mwyn sicrhau i berson unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr”) bwerau neu fanteision penodol sy’n fwy na’r gyfraith gyffredinol, neu sy’n gwrthdaro â hi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi ystyr ‘Bil Preifat’ ac ystyr ‘yr hyrwyddwr’.

Er nad oes dim i atal Aelod rhag bod yn hyrwyddwr Bil Preifat, yr hyn a ragwelir yw mai rhywun o’r tu allan i’r Cynulliad fydd yr hyrwyddwr yn y mwyafrif llethol o’r achosion.

Pe bai Aelod am fod yn hyrwyddwr Bil Preifat, byddai’n gwneud hynny fel unigolyn preifat ac nid yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o’r Cynulliad.

26A.2 Mae Rheol Sefydlog 26A yn gymwys i unrhyw Fil Preifat heblaw un y bwriedir i’w ddarpariaethau awdurdodi neu hwyluso unrhyw waith adeiladu neu awdurdodi prynu’n orfodol unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir. At y dibenion hyn, rhaid peidio â barnu bod trosglwyddo unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir sy’n rhan o asedau person neu gorff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i berson neu gorff arall sydd hefyd yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus yn golygu prynu’r ystâd honno neu’r buddiant hwnnw yn orfodol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi i ba raddau y mae Rheol Sefydlog 26A yn gymwys, hynny yw nad yw’n gymwys i Fil Preifat sy’n ymwneud â gwaith adeiladu nac â phrynu tir yn orfodol.

Maes o law, mae’n bosibl y bydd arnon ni angen gweithdrefnau i  ymdrin â’r ddeddfwriaeth breifat fwyaf cymhleth (er enghraifft, ynghylch prosiectau adeiladu). Ond mae mathau eraill o Fil Preifat, megis Bil Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn llai trafferthus ac rydyn ni wedi hoelio’n sylw ar ddatblygu gweithdrefn sy’n gallu trafod y Bil hwnnw a Biliau tebyg eraill.

A bwrw y bydd Bil Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn dod ymlaen, byddem yn rhag-weld ailystyried ac o bosibl ehangu capasiti’r weithdrefn ar ôl cwblhau’r broses honno er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw wersi a fydd yn cael eu dysgu.

Caniatâd i gyflwyno Bil Preifat

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.3 Cyn cael eu cyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 26A.9, rhaid i Fil Preifat a’r dogfennau sy’n cyd-fynd ag ef y mae Rheol Sefydlog 26A.12 yn gofyn amdanynt gael eu hanfon gan yr hyrwyddwr at y Llywydd er mwyn i’r Llywydd benderfynu a ddylai ganiatáu i’r Bil gael ei gyflwyno.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i hyrwyddwr Bil Preifat anfon y Bil a’r dogfennau sy’n cyd-fynd ag ef at y Llywydd, cyn i’r Bil gael ei gyflwyno yn y Cynulliad, er mwyn i’r Llywydd benderfynu a ddylai ganiatáu i’r Bil gael ei gyflwyno yn y Cynulliad.

26A.4 Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.3 ac, os na fydd caniatâd yn cael ei roi, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad ynghylch caniatâd i gyflwyno’r Bil Preifat yn y Cynulliad. Os bydd y Llywydd yn penderfynu peidio â rhoi caniatâd, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau dros y penderfyniad i’r hyrwyddwr.

 

26A.5 Rhaid i Fil Preifat beidio â chael ei gyflwyno heb gytundeb y Llywydd ymlaen llaw.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i gytundeb y Llywydd gael ei sicrhau cyn y caniateir i Fil Preifat gael ei gyflwyno.

Ffioedd

Is-bennawd newydd

26A.6 Caiff Comisiwn y Cynulliad godi ffi ar gyfer cyflwyno Bil Preifat, ac ar gyfer unrhyw gyfnodau dilynol o ystyried y Bil, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 26A.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn caniatáu i Gomisiwn y Cynulliad godi ffi ar yr hyrwyddwr.

Mae’r Rheol Sefydlog yn ei gadael yn agored i Gomisiwn y Cynulliad benderfynu a ddylid codi ffi o’r fath, ac ar ba lefel y dylid pennu’r ffi. Hefyd, mae gan y Comisiwn y dewis i naill ai godi un ffi pan gaiff y Bil ei gyflwyno neu i godi ffi ar gyfer pob cyfnod.

Gallai methiant ar ran yr hyrwyddwr i dalu unrhyw ffi mewn modd amserol olygu y byddai oedi yn y broses o ystyried y Bil Preifat gan y Cynulliad.

Ffurf Biliau Preifat a sut i’w Cyflwyno

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.7 Caniateir i Fil Preifat gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, gan ddileu cyfeiriadau at Reolau Sefydlog sy’n berthnasol i Filiau Pwyllgorau a Biliau Aelodau yn unig.

26A.8 Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno drwy gael ei osod gan yr hyrwyddwr neu ar ei ran.

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus ond yn galluogi Bil Preifat i gael ei osod gan yr hyrwyddwr neu ar ei ran. Bydd angen i Reol Sefydlog 15.1(ii) gael ei diwygio ychydig i ddarparu ar gyfer hyn. Dangosir y newid hwn o dan y ‘newidiadau canlyniadol’ ar ddiwedd y grid hwn.

 

26A.9 Rhaid peidio â gosod Bil Preifat oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol, sef newid y cyfeiriad at ‘Bil’ i ‘Bil Preifat’.

26A.10 Pan gyflwynir Bil Preifat, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)    nodi a fyddai darpariaethau’r Bil, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; a

(ii)   nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a’r rhesymau dros y farn honno.

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

26A.11 Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio pan na wneir hynny yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26A.9.

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiadau priodol.

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.12 Ar yr un pryd ag y bydd yr hyrwyddwr yn cyflwyno Bil Preifat, rhaid hefyd iddo osod Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg a Saesneg y mae’n rhaid iddo:

(i)    datgan y byddai darpariaethau’r Bil Preifat, ym marn yr hyrwyddwr, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;

(ii)   nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Preifat, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.38;

(iii)  nodi amcanion y Bil Preifat;

(iv)  nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Preifat ei mabwysiadu;

(v)   nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:

(a)   amcanion y Bil Preifat a’r ffyrdd o’u gwireddu; a

(b)   manylion y Bil Preifat,

           ynghyd â chrynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw;

(vi)  crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Preifat ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;

(vii) cynnwys Datganiad Hyrwyddwr sy’n nodi:

(a)   yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth a fydd yn effeithio ar eiddo neu ar hawliau neu ddyletswyddau contractiol unrhyw berson heblaw’r hyrwyddwr, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o berson yr effeithir ar ei eiddo neu ar ei hawliau neu ei ddyletswyddau contractiol a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(b)   yn achos Bil Preifat lle mae’r hyrwyddwr yn gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau, fanylion penderfyniad ffurfiol y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno i hyrwyddo’r Bil Preifat a chadarnhad bod y penderfyniad o dan sylw wedi’i wneud yn unol â chyfansoddiad y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno;

(c)   yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth i roi pwerau i unrhyw gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau, heblaw’r hyrwyddwr, neu i ddiwygio’u cyfansoddiad, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr i’r corff corfforaethol neu’r gymdeithas anghorfforedig o bersonau a manylion unrhyw ymateb a gafwyd. 

Rheol Sefydlog newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, ac eithrio o ran nodi darpariaethau sy’n cynnwys gwneud is-ddeddfwriaeth.

Mae dau bwynt ychwanegol wedi’u cynnwys sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r hyrwyddwr nodi’r rhesymau pam y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat a chynnwys datganiad hyrwyddwr (Rheol Sefydlog 26A.12(vii)).

 

 

 

 

 

Hysbysiad bod Bil Preifat wedi’i gyflwyno

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.13 Cyn gynted ag y bydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, rhaid i’r hyrwyddwr, gan ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd, hysbysebu’n briodol, gan gynnwys cyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru (neu, os yw’r Bil Preifat yn ymwneud ag un ardal yn unig yng Nghymru, ledled yr ardal honno) hysbysiad sy’n datgan:

(i)    effaith gyffredinol y Bil Preifat;

(ii)   y gall y Bil Preifat gael ei archwilio yn y Cynulliad ac mewn un neu ragor o fannau yng Nghymru gan gynnwys, yn achos Bil Preifat sy’n ymwneud ag un ardal yn unig yng Nghymru, fan yn yr ardal honno;

(iii)  y caiff personau sy’n credu y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd yn ystod y cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysid gyntaf mewn papur newydd (“y cyfnod ymgynghori”);

(iv)  sut i gyflwyno gwrthwynebiad a’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gwrthwynebiad hwnnw, gan roi sylw i Reol Sefydlog 26A.18;

(v)   y caiff gwrthwynebiad ofyn naill ai i’r Bil Preifat beidio â chael ei gymeradwyo neu i newidiadau gael eu gwneud i’r Bil Preifat cyn iddo gael ei gymeradwyo;

(vi)  bod rhaid i’r person sy’n gwneud gwrthwynebiad gydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd ynghylch gwneud gwrthwynebiad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr wneud trefniadau penodol i roi gwybod i’r cyhoedd fod Bil Preifat wedi’i gyflwyno a sut i wrthwynebu’r Bil hwnnw.

Rhaid i’r hyrwyddwr ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd wrth benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i’r hysbysiad, ond rhaid bob amser ei gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd lleol, fel y bo’n briodol. Mae’r Rheol Sefydlog ddilynol yn gorfodi’r hyrwyddwr i ddangos i’r Llywydd sut y mae’n cydymffurfio â’r gofyniad hwn.

Mae cyfnod o 40 o ddiwrnodau ar gyfer gwrthwynebu yn agor pan fydd yr hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan yr hyrwyddwr.

26A.14 Cyn gynted ag y bydd yr hyrwyddwr wedi cydymffurfio â gofynion Rheol Sefydlog 26A.13, rhaid i’r hyrwyddwr roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r Llywydd, gan roi manylion y canlynol:

(i)    sut y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny; a

(ii)   y trefniadau a wnaeth yr hyrwyddwr i sicrhau y gallai’r Bil Preifat gael ei archwilio (heblaw yn y Cynulliad) yn unol â Rheol Sefydlog 26A.13(ii) . 

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr roi gwybod i’r Llywydd, mewn ysgrifen, y cydymffurfiwyd â’r gofynion ynghylch rhoi gwybod i’r cyhoedd fod y Bil Preifat wedi’i gyflwyno. Rhaid i’r hyrwyddwr roi’r manylion am sut y cafodd hyn ei wneud.

 

 

2 (ii)             Cyfnod Gwrthwynebu (RhS 26A.15 - 26A.24) 

 

Gwrthwynebu

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.15 Caiff person unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau sydd o’r farn y byddai Bil Preifat a gyflwynid yn y Cynulliad yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau (“gwrthwynebydd”) wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd mewn ysgrifen, yn unol â hysbysiad a roddir o dan Reol Sefydlog 26A.13, yn ystod y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii).

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu i berson, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau wrthwynebu Bil Preifat os ydyn nhw’n teimlo y byddai’n effeithio’n andwyol ar eu buddiannau. Mae’r Rheol Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan Reol Sefydlog 26A.13.

 

 

 

26.A16 At ddibenion Rheol Sefydlog 26.A15, caiff aelod o’r llywodraeth fod yn wrthwynebydd hefyd.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn gysylltiedig â Rheol Sefydlog 26.A15 ac mae’n darparu y caiff aelod o’r llywodraeth fod yn wrthwynebydd.

26A.17 Rhaid i’r Llywydd ddyfarnu a yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd ddyfarnu a yw gwrthwynebiadau’n gallu cael eu derbyn neu beidio.  Mae’r Rheol Sefydlog hon yn gysylltiedig â Rheol Sefydlog 26A.18.

Wrth ddyfarnu o dan y Rheol Sefydlog hon, nid yw’n ofynnol i’r Llywydd ddyfarnu a yw’r gwrthwynebid yn ddilys ai peidio, dim ond bod y gwrthwynebiad yn cydymffurfio â’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.18.

26A.18 Dim ond:

(i)    os yw’n cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 ynglŷn â gwneud gwrthwynebiad;

(ii)   os yw’n nodi natur y gwrthwynebiad;

(iii)  os yw’n nodi’r darpariaethau yn y Bil Preifat sy’n arwain at y gwrthwynebiad;

(iv)  os yw’n pennu sut y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r gwrthwynebydd

y bydd gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi’r meini prawf ynglŷn â derbyn gwrthwynebiadau. Mae’r Rheol Sefydlog hon yn gysylltiedig â Rheol Sefydlog 26A.17.

26A.19 Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.17 ac, os dyfernir nad yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

 

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad ynghylch derbyn gwrthwynebiad neu beidio.  Pan fo’r Llywydd wedi dyfarnu na all gwrthwynebiad gael ei dderbyn, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

26A.20 Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, rhaid i’r Clerc gyhoeddi pob gwrthwynebiad derbyniadwy.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc gyhoeddi pob gwrthwynebiad derbyniadwy pan fydd y cyfnod gwrthwynebu wedi dod i ben.

26A.21 Os caiff y Llywydd wrthwynebiad ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ond cyn y cyfarfod cyntaf ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, ac os ceir gyda’r gwrthwynebiad hwnnw ddatganiad gan y gwrthwynebydd sy’n esbonio’r oedi cyn cyflwyno’r gwrthwynebiad, rhaid i’r Llywydd benderfynu a yw wedi’i fodloni:

(i)    bod y gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.18;

(ii)   bod gan y gwrthwynebydd reswm da dros beidio â gwneud y gwrthwynebiad o fewn y cyfnod gwrthwynebu;

(iii)  bod y gwrthwynebydd wedi gwneud y gwrthwynebiad cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben; a

(iv)  na fyddai’n afresymol ystyried y gwrthwynebiad hwnnw o gofio hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr a'r hyrwyddwr.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ymwneud a gwrthwynebiadau sy’n dod i law ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddirwyn i ben (‘gwrthwynebiadau hwyr’). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd ei fodloni ei hun ynghylch y materion sydd wedi’u rhestru yn (i) i (iv).

26A.22 Os yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly:

(i)    rhaid iddo roi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad;

(ii)   rhaid i’r Clerc gyhoeddi’r gwrthwynebiad; a

(iii)  rhaid i’r pwyllgor a sefydlir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 roi ystyriaeth i’r gwrthwynebiad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd a’r Clerc gymryd camau penodol os yw’r Llywydd wedi’i fodloni bod y gwrthwynebiad hwyr yn gallu cael ei dderbyn.

26A.23 Os nad yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly, rhaid iddo:

(i)    rhoi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad, a

(ii)   rhoi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r gwrthwynebydd.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gymryd camau penodol os nad yw wedi’i fodloni bod gwrthwynebiad hwyr yn gallu cael ei dderbyn.

26A.24 Caniateir i wrthwynebiad gael ei dynnu’n ôl gan y gwrthwynebydd, yn unol ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llywydd.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi gwrthwynebydd i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl, yn unol ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llywydd.

 

2 (iii)  Pwyllgorau Biliau Preifat (RhS 26A.25 - 26A.36) 

 

Pwyllgorau Biliau Preifat

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.25 Pan fydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, ac ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii) ddod i ben, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig i sefydlu Pwyllgor Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ymwneud â sefydlu Pwyllgor Bil Preifat.

Ar ôl i Fil Preifat gael ei gyflwyno, ac ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, mae’n ofynnol i’r Cynulliad ystyried cynnig, a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes, i sefydlu Pwyllgor Bil Preifat i ystyried y Bil.

26A.26 Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat ac eithrio bod rhaid iddo gynnwys dim llai na phedwar o aelodau.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ymwneud ag aelodaeth y Pwyllgor Bil Preifat. Mae Rheol Sefydlog 17.3 yn darparu i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar aelodaeth a chadeirydd pob pwyllgor.

Mae Rheol Sefydlog 17.7 yn gymwys os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3. Mae’n darparu i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau, pryd y dyrennir y lleoedd ar y pwyllgorau hynny yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (hynny yw fformiwla d’Hondt).

Nid yw Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn darparu ar gyfer isafswm o aelodau ar bwyllgor ac felly mae’r Rheol Sefydlog ddrafft hon yn datgan bod rhaid cael dim llai na phedwar o aelodau ar Bwyllgor Bil Preifat. 

26A.27 Rhaid i unrhyw Aelod y mae ganddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, neu hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan ei bartner neu y mae gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y maent yn disgwyl y bydd ganddynt, fuddiant y mae’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2 y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar Fil Preifat, beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir i ystyried y Bil hwnnw.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn atal unrhyw Aelod rhag bod yn aelod o bwyllgor a sefydlir i ystyried Bil Preifat penodol os oes gan yr Aelod hwnnw (neu hyd y gŵyr yr Aelod hwnnw, os oes gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol iddo) fuddiant, neu os disgwylir y bydd ganddynt fuddiant, y mae’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2 y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd y Pwyllgor ar y Bil Preifat.

26A.28 Rhaid i unrhyw Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw fuddiant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26A.27 a hefyd am unrhyw fuddiant, heblaw buddiant o’r fath, sydd ganddo neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo neu, hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan ei bartner neu sydd gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y maent yn disgwyl y bydd ganddynt, y gellid, ym marn yr Aelod hwnnw, farnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar y Bil Preifat.

Rheol Sefydlog newydd

O dan y Rheol Sefydlog hon, rhaid i unrhyw Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw fuddiant (gan gynnwys buddiant nad yw’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2) sydd ganddo neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo neu (neu sydd gan bartner neu blentyn dibynnol iddo) neu y maent yn disgwyl y bydd ganddynt ac y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar y Bil Preifat.

 

26A.29 At ddibenion Rheolau Sefydlog 26A.27 a 26A.28, mae ystyron “partner” a “plentyn dibynnol” fel y’u diffiniwyd ym mharagraff 4 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn egluro ystyr “partner” a “plentyn dibynnol”, a ddefnyddiwyd yn y Rheol Sefydlog flaenorol, ac yn cysoni eu diffiniadau â’r diffiniadau o dan Reol Sefydlog 2.

26A.30 Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.28 ynglŷn ag Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat gael ei gyhoeddi yr un pryd â’r cynnig i sefydlu’r pwyllgor hwnnw.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan Reol Sefydlog 26A.28 gael ei chyhoeddi yr un pryd â’r cynnig i sefydlu’r Pwyllgor Bil Preifat, er mwyn i’r Cynulliad fod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant perthnasol cyn ethol Aelodau i’r pwyllgor.

26A.31 Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, cyn cyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gyflawni cwrs hyfforddi perthnasol fel y pennwyd gan y Llywydd.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau o Bwyllgor Bil Preifat ddilyn cwrs hyfforddi cyn ymgymryd â’u dyletswyddau.

26A.32 Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gytuno i weithredu’n ddiduedd, yn rhinwedd swydd yr Aelod hwnnw fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, a seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth arall a ddarperir i’r pwyllgor hwnnw yn unig.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat gytuno i weithredu’n ddiduedd fel aelod o’r pwyllgor gan seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarperir yn unig.

26A.33 Rhaid i aelodau Pwyllgor Bil Preifat, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol, fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Pwyllgor Bil Preifat.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau Pwyllgor Bil Preifat fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae hyn yn bwysig am fod rhan o rôl y pwyllgor yn lled-farnwrol yn yr ystyr ei bod yn golygu gwrando tystiolaeth gan hyrwyddwr y Bil Preifat ac unrhyw wrthwynebwyr. Os na fydd aelodau’n bresennol gall fod rhaid i’r pwyllgor ailwrando tystiolaeth sydd eisoes wedi’i chyflwyno i’r pwyllgor (gweler Rheol Sefydlog 26A.34 isod).

26A.34 Ni chaiff aelod o Bwyllgor Bil Preifat gymryd rhan mewn unrhyw drafodion ar y Bil Preifat oni bai:

(i)    bod yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r Bil Preifat hwnnw a roddwyd ar lafar yn ystod trafodion y pwyllgor wedi’i rhoi yng ngŵydd yr Aelod, neu

(ii)   gyda chytundeb yr hyrwyddwr ac unrhyw wrthwynebydd y mae’r dystiolaeth yn ymwneud ag ef, fod yr Aelod hwnnw wedi gweld recordiad neu wedi darllen trawsgrifiad o’r holl dystiolaeth nas rhoddwyd yng ngŵydd yr Aelod. 

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn atal aelod o Bwyllgor Bil Preifat rhag cymryd rhan mewn trafodion ar Fil Preifat oni bai ei fod wedi bod yn bresennol ar gyfer y cyfan o’r dystiolaeth lafar, neu (gyda chaniatâd yr hyrwyddwyr ac unrhyw wrthwynebydd y mae’r dystiolaeth lafar honno’n berthnasol iddo) oni bai bod yr aelod wedi gweld recordiad o’r dystiolaeth neu wedi darllen y trawsgrifiad neu’r trawsgrifiadau perthnasol.

 

26A.35 Nid yw Rheolau Sefydlog 17.12, 17.17 na 17.48 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn datgymhwyso’r Rheolau Sefydlog a ganlyn:

Rheol Sefydlog 17.12 – Aelod yn peidio â bod yn aelod o bwyllgor os yw’n ymuno â grŵp gwleidyddol neu’n ymadael ag ef;

Rheol Sefydlog 17.17 – sefydlu is-bwyllgorau;

Rheol Sefydlog 17.48 – dirprwyon mewn cyfarfodydd pwyllgor.

26A.36 Nid yw Rheol Sefydlog 17.49 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat, ac eithrio wrth i’r pwyllgor ystyried trafodion ar welliannau.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn datgymhwyso Rheol Sefydlog 17.49 (cymryd rhan mewn cyfarfod pwyllgor gan Aelodau nad ydyn nhw’n aelodau o’r pwyllgor), ac eithrio pan fo’r pwyllgor wrthi’n ystyried trafodion ar welliannau. Os felly, mae Aelodau nad ydyn nhw’n aelodau o’r pwyllgor ond sydd wedi cyflwyno gwelliannau yn cael cymryd rhan mewn trafodion ar y gwelliannau hynny gyda chaniatâd y Cadeirydd, ond chân nhw ddim pleidleisio. Mae darpariaeth debyg yn cael ei gwneud ynglŷn â thrafodion ar welliannau yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar Filiau Cyhoeddus. 

 

2 (iv)           Ystyriaeth Gychwynnol (RhS 26A.37 - 26A.44) 

 

Yr Ystyriaeth Gychwynnol

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.37 Pan fydd y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii) wedi dod i ben, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio Bil a osodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.8 at y Pwyllgor Bil Preifat a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 (“y pwyllgor”), iddo ystyried a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat a chyflwyno adroddiad ar hynny.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio Bil sydd wedi’i osod o dan Reol Sefydlog 26A at Bwyllgor Bil Preifat er mwyn iddo bwyso a mesur a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat a chyflwyno adroddiad ar hynny.

26A.38 Wrth ystyried a ddylai Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, rhaid i’r pwyllgor ystyried:

(i)    a yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil ac a osodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.12, ym marn y pwyllgor, yn ddigonol i ganiatáu gwaith craffu priodol ar y Bil;

(ii)   a gynhaliodd yr hyrwyddwr ymgynghori digonol cyn i’r Bil gael ei gyflwyno;

(iii)  a yw darpariaethau’r Bil yn peri ei fod yn briodol i’w ystyried fel Bil Preifat yn unol â Rheol Sefydlog 26A, gan roi sylw penodol i’r canlynol:

(a)   i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn effeithio ar faterion o bolisi cyhoeddus;

(b)   i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn diwygio neu’n diddymu deddfwriaeth arall;

(c)   maint yr ardal y mae’n ymwneud â hi;

(d)   nifer a natur y buddiannau y mae’n effeithio arnynt.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi rhai o’r materion y dylai’r pwyllgor roi sylw arbennig iddyn nhw wrth ystyried a ddylai’r Bil gael caniatâd i fynd rhagddo fel Bil Preifat.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cael rhoi sylw i unrhyw faterion eraill y mae’n credu eu bod yn berthnasol.

Fel rhan o’i ystyriaeth, caiff y Pwyllgor ofyn am unrhyw wybodaeth y mae’n credu ei bod yn angenrheidiol gan bersonau a all fod â buddiant yn y mater.

26A.39 Os yw’n ymddangos i’r pwyllgor nad yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil yn ddigonol i alluogi’r pwyllgor i gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.37, caiff y pwyllgor, cyn cyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, ganiatáu unrhyw gyfnod rhesymol y mae’r pwyllgor yn credu ei fod yn briodol i’r hyrwyddwr ddarparu unrhyw wybodaeth arall sydd ym marn y pwyllgor yn angenrheidiol (“dogfennau ategol ychwanegol”).

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi’r pwyllgor i roi amser ychwanegol i’r hyrwyddwr i ddarparu rhagor o wybodaeth er mwyn helpu’r pwyllgor i gyflwyno adroddiad i ddweud a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat.

26A.40 Rhaid i unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol gael eu gosod.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth sy’n cael ei darparu yn unol â Rheol Sefydlog 26A.39 gael ei gosod.

26A.41 Ar ôl i’r pwyllgor gyflwyno’i adroddiad, caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y Cynulliad yn cytuno i’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol, ar ôl i’r pwyllgor gyflwyno’i adroddiad, i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y Cynulliad yn cytuno i’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat. 

26A.42 Os cytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.41, mae’r Bil yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu i’r Bil symud ymlaen i’r cyfnod ystyried nesaf, ‘Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor’, os cytunir ar y cynnig a gyflwynwyd o dan y Rheol Sefydlog flaenorol.

26A.43 Os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.41, mae’r Bil yn methu.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu bod y Bil yn methu os na chytunir ar gynnig sydd wedi’i gyflwyno o dan Reol Sefydlog 26A.41.

26A.44 Mae’r Ystyriaeth Gychwynnol ar ben pan fydd y Cynulliad wedi cytuno y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat neu pan fydd y Bil yn methu fel rhan o’r Ystyriaeth Gychwynnol.

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (v)             Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor (RhS 26A.45 - 26A.70)

 

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.45 Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r Ystyriaeth Gychwynnol ddod i ben.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.46 Rhaid i’r trafodion adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu hystyried gan y pwyllgor a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 ac a ystyriodd drafodion yr Ystyriaeth Gychwynnol ar y Bil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu i’r Pwyllgor Bil Preifat a ystyriodd y Bil Preifat adeg yr Ystyriaeth Gychwynnol ystyried y Bil adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.47 Adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r pwyllgor:

(i)    ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a chyflwyno adroddiad arnynt;

(ii)   ystyried unrhyw wrthwynebiadau derbyniadwy, heblaw unrhyw wrthwynebiad nad oes iddo, ym marn y pwyllgor, sail o sylwedd a chyflwyno adroddiad arnynt; a

(iii)  ystyried manylion y Bil Preifat yn unol â Rheolau Sefydlog 26A.54 i 26A.70 (gan gynnwys unrhyw welliannau derbyniadwy).

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi rôl y Pwyllgor Bil Preifat adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, sef ystyried a chyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat ac unrhyw wrthwynebiadau sy’n dderbyniadwy, ac wedyn craffu ar y Bil fesul llinell a gwaredu unrhyw welliannau sy’n dderbyniadwy.

Mae’r Rheolau Sefydlog a ganlyn yn nodi drwy ba broses y mae’n rhaid i’r Pwyllgor gyflawni’r swyddogaethau hyn, gan gynnwys cyflwyno adroddiad ar yr egwyddorion cyffredinol a’r gwrthwynebiadau cyn symud ymlaen i ystyried gwelliannau a’u gwaredu.

26A.48 Mae gan y personau a ganlyn hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor yn bersonol, neu i gael eu cynrychioli:

(i)    yr hyrwyddwr;

(ii)   unrhyw wrthwynebydd (yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.51) sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad derbyniadwy y mae’r pwyllgor o’r farn bod iddo sail o sylwedd;

(iii)  aelod o’r llywodraeth;

a chânt gymryd rhan yn y trafodion yn unol ag unrhyw ddyfarniadau gan y Cadeirydd.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn nodi’r categorïau o bersonau sydd â hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor ac i gymryd rhan yn y trafodion.

26A.49 Caiff y Cadeirydd, wrth ddyfarnu ar sut y caiff gwrthwynebydd (neu berson arall) gymryd rhan yn y trafodion, gymryd i ystyriaeth natur y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill ac i ba raddau y mae natur y cyfraniad hwnnw yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r pwyllgor i ystyried y gwrthwynebiad a chyflwyno adroddiad arno.  

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi’r Cadeirydd i gymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, a’r rheiny wedi’u nodi yn y Rheol Sefydlog, wrth ddyfarnu ar sut y caiff gwrthwynebydd gymryd rhan yn y trafodion.

26A.50 Caiff y Pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi’r pwyllgor i alw personau heblaw’r rhai sydd wedi’u rhestru yn Rheol Sefydlog 26A.48 i roi tystiolaeth, os yw’r pwyllgor yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny.

26A.51 Os yw’r pwyllgor o’r farn bod dau neu fwy o wrthwynebiadau yr un fath neu’n debyg i’w gilydd, caiff grwpio’r gwrthwynebiadau hynny gyda’i gilydd a dewis un neu ragor o wrthwynebwyr o’r grŵp hwnnw i roi tystiolaeth ac i gymryd rhan fel arall mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau hynny.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi’r pwyllgor i grwpio gwrthwynebiadau tebyg er mwyn gwahodd gwrthwynebwyr i roi tystiolaeth.

26A.52 Os yw’r pwyllgor, wrth baratoi ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii), yn bwriadu argymell newid yn y Bil Preifat a phe bai’r newid hwnnw, o’i wneud, ym marn pwyllgor, yn effeithio ar fuddiannau’r personau eraill y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26A.53, caiff y Pwyllgor gymryd unrhyw gamau y mae’n barnu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y caiff y personau eraill hynny gyfle rhesymol i gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor mewn perthynas â’r argymhelliad hwnnw.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn gymwys pan fo’r pwyllgor, wrth baratoi ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a’r gwrthwynebiadau, yn bwriadu argymell newid yn y Bil a fyddai’n effeithio ar fuddiannau “personau eraill” (sydd wedi’u diffinio yn Rheol Sefydlog 26A.53). 

Os felly, mae’r pwyllgor yn gallu cymryd camau priodol i sicrhau bod gan y personau eraill hynny gyfle rhesymol i gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor ynghylch yr argymhelliad hwnnw.

Gall y camau hyn gynnwys gofyn i’r hyrwyddwr gyhoeddi hysbysiad newydd a chaniatáu cyfnod newydd ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r newid arfaethedig.

26A.53 At ddibenion Rheol Sefydlog 26A.52, ystyr “personau eraill” yw:

(i)    personau nad effeithiwyd ar eu buddiannau gan y Bil Preifat fel y’u cyflwynwyd ond y byddid yn effeithio ar eu buddiannau pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, neu

(ii)   gwrthwynebwyr presennol y byddid yn effeithio ar eu buddiannau i raddau helaethach neu mewn ffyrdd newydd pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, gan arwain at seiliau newydd o sylwedd dros wrthwynebu. 

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn diffinio “personau eraill” at ddibenion y Rheol Sefydlog flaenorol.

26A.54 Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.55 Rhaid i 25 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y gosodir yr adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) a dyddiad y cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor yn ystyried manylion y Bil Preifat ynddo yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

Rheolau Sefydlog Newydd

Mae Rheolau Sefydlog 26A.55-26A.60 yn gysylltiedig â’i gilydd.

Mae Rheol Sefydlog 26A.55 yn darparu i 25 o ddiwrnodau gwaith fynd heibio rhwng y diwrnod pan fydd adroddiad y pwyllgor ar yr egwyddorion cyffredinol a’r gwrthwynebiadau yn cael ei osod a chyfarfod cyntaf y pwyllgor i waredu’r gwelliannau i’r Bil Preifat.

Yn ystod y cyfnod hwn o 25 o ddiwrnodau gwaith—

i. o fewn y 5 diwrnod gwaith cyntaf, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig na ddylai’r Bil Preifat fynd ymhellach (Rheol Sefydlog 26A.56). Os yw’r Pwyllgor wedi argymell na chytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat, rhagwelir y byddai aelod o’r pwyllgor yn cyflwyno cynnig o’r fath er mwyn sicrhau cadarnhad y Cynulliad i’r farn honno;

ii. os na fydd cynnig yn cael ei gyflwyno, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat (Rheol Sefydlog 26A.57). Os felly, caiff y Pwyllgor Bil Preifat waredu’r gwelliannau i’r Bil.

iii. pan fydd cynnig o’r fath yn cael ei gyflwyno, rhaid i’r Pwyllgor Busnes drefnu bod amser ar gael, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno, i’r Cynulliad drafod y cynnig (Rheol Sefydlog 26A.58).  Nid yw diwrnodau gwaith mewn wythnos pan nad yw’r Cynulliad yn eistedd yn cyfrif at ddibenion y Rheol Sefydlog hon, er mwyn osgoi amserlennu dadl yn ystod toriad. 

iv. os bydd cynnig sy’n cael ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 26A.56 yn cael ei gytuno, mae’r Bil Preifat yn methu (Rheol Sefydlog 26A.59). Os na fydd cynnig o’r fath yn cael ei gytuno, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r Pwyllgor symud ymlaen i waredu’r gwelliannau i’r Bil (Rheol Sefydlog 26A.60).

26A.56 Heb fod yn hwyrach na phum diwrnod gwaith ar ôl i adroddiad y pwyllgor gael ei osod, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig na ddylai’r Bil Preifat fynd ymhellach.

26A.57 Os na chyflwynir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.56, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

26A.58 Rhaid trefnu bod amser ar gael i gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.56 gael ei drafod o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad cyflwyno’r cynnig (heb gyfrif diwrnodau gwaith mewn wythnos pan nad yw’r Cynulliad yn eistedd).

26A.59 Os cytunir â chynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.56, mae’r Bil Preifat yn methu.

26A.60 Os na chytunir â chynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.54, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

26A.61 Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y gosododd y pwyllgor ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii).

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu y caniateir i welliannau i’r Bil Preifat gael eu cyflwyno o’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r pwyllgor osod ei adroddiad ar yr egwyddorion cyffredinol a’r gwrthwynebiadau.

26A.62 O dan amgylchiadau eithriadol, caiff Cadeirydd y pwyllgor dderbyn gwelliant yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26A.97. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.63 Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y pwyllgor wedi penderfynu fel arall.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.64 Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor a gaiff gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor hwnnw at y dibenion a ganlyn:

(i)    cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)   pleidleisio.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.65 Caniateir i welliant gan Aelod nad yw’n aelod o’r Pwyllgor gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.66 Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, rhaid barnu bod y pwyllgor wedi cytuno â’r adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.67 Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.68 Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw’r olaf.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.69 Os caiff Bil Preifat ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor i fewnosod adran neu atodlen, neu i newid yn sylweddol ar unrhyw ddarpariaeth bresennol, caiff y pwyllgor ofyn i’r hyrwyddwr baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.70 Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig y gofynnir amdano o dan Reol Sefydlog 26A.66 gael ei osod o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (vi)           Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad (RhS 26A.71 - 26A.83) 

 

Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.71 Mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.72 Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dechrau a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.73 Rhaid i Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad gael ei hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.74 Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.75 Caniateir i welliannau i’w hystyried adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd y cyfnod yn dechrau.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.76 Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.77 Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu fel arall drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(ii)).

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.78 Drwy gynnig heb hysbysiad gan y Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(ii)), caiff y Cynulliad gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.79 Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.78, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)    am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)   i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogi’n afresymol.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.80 Dim ond os ydynt, yn ychwanegol at y meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.99, wedi’u bwriadu ar gyfer y canlynol—

(i)    egluro geiriad darpariaeth yn y Bil Preifat (gan gynnwys dileu anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg neu rhyngddynt), neu

(ii)   rhoi eu heffaith i ymrwymiadau a roddwyd ar ran yr hyrwyddwr adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu

(iii)  rhoi eu heffaith i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii),

y mae gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dderbyniadwy.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus (Rheol Sefydlog 26.41), â diwygiadau priodol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfeiriad at roi eu heffaith i argymhellion gan y pwyllgor yn ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a’r gwrthwynebiadau.

Effaith y Rheol Sefydlog hon yw cyfyngu’r mathau o welliannau a all gael eu cyflwyno adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad i’r rheiny sydd naill ai’n dechnegol eu natur, neu yn rhoi eu heffaith i ymrwymiadau neu argymhellion a wnaed yn ystod cyfnod y pwyllgor.

26A.81 Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, rhaid barnu bod y Cynulliad wedi derbyn yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.82 Os na chyflwynir gwelliant i adran neu atodlen, bernir bod y Cynulliad wedi derbyn yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.83 Mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i derbyn, pa un bynnag yw'r olaf.

 

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (vii)          Y Cyfnod Terfynol ac Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd (RhS 26A.84 - 26A.94) 

 

Y Cyfnod Terfynol

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.84 Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Preifat gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn cadarnhau bod rhai i gyfnod olaf y broses ar Fil Preifat ddigwydd yn y cyfarfod llawn.

26A.85 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.87, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, gyflwyno cynnig bod y Bil Preifat yn cael ei basio.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, ac eithrio bod y Rheol Sefydlog hon yn darparu i 5 diwrnod gwaith fynd heibio rhwng gorffen Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad a’r Cyfnod Terfynol.

Y bwriad yw caniatáu rhywfaint o amser i hyrwyddwr y Bil Preifat ystyried a ddylai fynd â’r Bil i’r cyfnod terfynol ynteu ei dynnu’n ôl. Hefyd, gan na fydd ‘Aelod Cyfrifol’ y Bil yn bresennol yn y Siambr, mae hyn yn golygu nad yw’n ymarferol i gynnig gael ei wneud heb roi hysbysiad.

 

26A.86 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Preifat gael ei basio.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.87 Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Preifat ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.88 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.89 Ar ôl i’r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)    os oes cwestiwn ynglŷn â’r Bil Preifat wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o’r Ddeddf;

(ii)   os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)  os nad yw’r naill gyfeiriad na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu fel arall.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

26A.90 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat:

(i)    os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu

(ii)   os gwneir gorchymyn mewn perthynas â’r Bil Preifat o dan adran 114 o’r Ddeddf.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

26A.91 Rhaid i’r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

26A.92 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.99, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol:

(i)    y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)   penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)  y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

26A.93 Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae’r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.94 Caiff unrhyw Aelod gynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Preifat a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (viii)        Gwelliannau i Filiau Preifat (RhS 26A.95 - 26A.104) 

 

Gwelliannau i Filiau Preifat

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.95 Mae Rheolau Sefydlog 26A.96 i 26A.104 yn gymwys i drafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, i drafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad ac i drafodion y Cyfnod Ailystyried.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.96 Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.97 Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.98 Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.99 Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)    os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26A.96;

(ii)   os nad yw’n berthnasol i’r Bil Preifat neu i ddarpariaethau’r Bil Preifat y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)  os yw’n anghyson â’r egwyddorion cyffredinol fel yr adroddwyd arnynt gan y pwyllgor ac fel y bernir y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad; neu

(iv)  os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.100 Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26A.96 i 26A.104 fod yn gymwys yn unol â hynny.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.101 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.64, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.102 Caiff Cadeirydd y pwyllgor neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddaw’n amser ei waredu.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.


26A.103 Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)    yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, gan aelod o’r pwyllgor; neu

(ii)   yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.104 Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)    yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, os na fydd aelod o’r pwyllgor yn gwrthwynebu; neu

(ii)   yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (ix)            Newid Hyrwyddwr a Chydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw (RhS 26A.105 - 26A.112) 

 

Newid Hyrwyddwr

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.105 Mae Rheolau Sefydlog 26A.106 i 26A.111 yn gymwys pan na fydd yr hyrwyddwr, cyn i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben, mwyach yn dymuno neu yn gallu sicrhau’r pwerau neu’r manteision a roddir gan y Bil hwnnw, a bod unigolyn, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr newydd”) yn dymuno sicrhau’r pwerau neu’r manteision hynny.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu bod Rheolau Sefydlog 26A.106 i 26A.111 yn gymwys os bydd yr hyrwyddwr yn newid.

26A.106 Rhaid i’r hyrwyddwr newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, osod memorandwm sy’n nodi’r rhesymau dros newid hyrwyddwr ac amgylchiadau newid hyrwyddwr.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd osod memorandwm ynglŷn â’r newid hyrwyddwr.

26A.107 Rhaid i’r pwyllgor, gan gymryd i ystyriaeth y memorandwm a osodir o dan Reol Sefydlog 26A.106 ac unrhyw wybodaeth arall gan yr hyrwyddwr newydd y mae’r pwyllgor yn gofyn amdani, ystyried goblygiadau’r newid hyrwyddwr ar gyfer hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr, personau eraill ac ar gyfer cynnydd y Bil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor ystyried goblygiadau’r newid hyrwyddwr ar gyfer hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr ac ar gyfer cynnydd y Bil Preifat.

26A.108 Caiff y pwyllgor, os yw o’r farn bod hynny’n briodol er mwyn amddiffyn hawliau neu fuddiannau gwrthwynebwyr neu bersonau eraill, neu er mwyn sicrhau gwaith craffu priodol ar y Bil Preifat:

(i)    ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd osod dogfennau ategol ychwanegol;

(ii)   ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd roi unrhyw ymrwymiadau y mae’r pwyllgor o’r farn eu bod yn briodol;

(iii)  ei gwneud yn ofynnol i’r trafodion ar y Bil Preifat adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu i ran o’r trafodion hynny, ddechrau eto;

(iv)  cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar oblygiadau’r newid hyrwyddwr, gydag argymhelliad na ddylai’r Bil Preifat fynd rhagddo gyda'r hyrwyddwr newydd.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn galluogi’r pwyllgor i fynnu dogfennau penodol oddi wrth yr hyrwyddwr newydd ac unrhyw ymrwymiad y mae’r pwyllgor yn barnu ei fod yn briodol. Mae hefyd yn galluogi’r pwyllgor i fynnu bod trafodion, neu ran o’r trafodion, ar y Bil Preifat yn dechrau eto a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad gydag argymhelliad na ddylai’r Bil Preifat fynd rhagddo gyda’r hyrwyddwr newydd.

26A.109 Rhaid i adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.108(iv) gael ei ystyried gan y Cynulliad drwy gynnig gan Gadeirydd y pwyllgor.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu i adroddiad gan y pwyllgor o dan y Rheol Sefydlog flaenorol gael ei ystyried gan y Cynulliad, drwy gynnig gan y Cadeirydd.

26A.110 Os cytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, mae’r Bil Preifat yn methu.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu bod y Bil Preifat yn methu os cytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109.

26A.111 Os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, rhaid i’r pwyllgor neu’r Cynulliad barhau i ystyried y Bil Preifat.

Rheol Sefydlog Newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn darparu i’r pwyllgor barhau i ystyried y Bil Preifat os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.112 Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’r Bil Preifat yn Fil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Cynulliad beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil Preifat gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth yn ystod y trafodion ar y Bil Preifat mewn cyfarfod o’r Cynulliad.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (x)             Penderfyniadau Ariannol (RhS 26A.113 - 26A.119) 

 

Penderfyniadau Ariannol

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.113 Rhaid i’r Llywydd benderfynu ym mhob achos a oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Preifat o dan Reolau Sefydlog 26A.114 a 26A.119.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.114 Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth:

(i)    sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru; neu

(ii)   y byddai ei heffaith debygol yn arwain at:

(a)   cynnydd arwyddocaol yn y gwariant a godir ar y Gronfa honno;

(b)   gwariant arwyddocaol sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben newydd; neu

(c)   cynnydd arwyddocaol yn y gwariant sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben presennol,

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) oni bai bod y Cynulliad wedi cytuno, drwy benderfyniad ariannol, y caniateir i’r gwariant neu’r cynnydd yn y gwariant gael ei godi ar y Gronfa honno neu, yn ôl fel y digwydd, ei dalu ohoni.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.115 Os yw:

(i)    Bil Preifat yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n gosod neu’n cynyddu (neu sy’n rhoi pŵer i osod neu i gynyddu) unrhyw dâl, neu fel arall yn ei gwneud yn ofynnol (neu’n rhoi pŵer i’w gwneud yn ofynnol) i unrhyw daliad gael ei wneud; a

(ii)   yn ofynnol, gan neu o dan adran 120(1) o’r Ddeddf, i’r person y mae’r tâl neu’r taliad yn daladwy iddo dalu symiau a dderbynnir i Gronfa Gyfunol Cymru (neu os byddai’n ofynnol gwneud hynny heblaw am unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan adran 120(2)),

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) oni bai bod y Cynulliad, drwy benderfyniad ariannol, wedi cytuno â’r tâl, y cynnydd neu’r taliad.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.116 Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 26A.115:

(i)    bydd yn gymwys dim ond os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r      taliad yn arwyddocaol; a

(ii)   ni fydd yn gymwys os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad:

(a)   yn ymwneud â darparu nwyddau ac yn rhesymol o’i gymharu â’r nwyddau a ddarperir; neu

(b)   wedi’i gyfeirio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at adennill cost darparu unrhyw wasanaeth y mae’r tâl yn cael ei osod ar ei gyfer neu y mae’n ofynnol gwneud y taliad ar ei gyfer.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.117 Os byddai gwelliant (neu welliannau) i Fil Preifat, o’i dderbyn (neu o’u derbyn), yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Preifat na fyddai ei angen fel arall, ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y gwelliant (neu’r gwelliannau) oni bai bod y Cynulliad wedi derbyn cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o’r fath.

 

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.118 Dim ond aelod o’r llywodraeth a gaiff wneud cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.119 Oni bai:

(i)    bod hysbysiad ynglŷn â chynnig ar gyfer unrhyw benderfyniad ariannol y gofynnir amdano mewn perthynas â Bil Preifat gan Reolau Sefydlog 26A.114 neu 26A.115 yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y mae’r Pwyllgor Bil Preifat wedi cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A47(i) a (ii); a

(ii)   bod y cynnig yn cael ei dderbyn,

mae’r Bil Preifat yn methu.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (xi)            Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Cynulliad a Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl (RhS 26A.120 - 26A.123) 

 

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Cynulliad

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.120 Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Cynulliad ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf Breifat Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

Is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26A.121 Os bydd Bil Preifat yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Cynulliad, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Preifat hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Preifat sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Cynulliad o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Preifat neu y cafodd ei wrthod.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.122 Mae Bil Preifat yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

26A.123 Caniateir i Fil Preifat gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg gan yr hyrwyddwr.

Rheol Sefydlog Newydd

Yn dyblygu’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Cyhoeddus, â diwygiad priodol.

 

2 (xii)          Newidiadau Canlyniadol i Reolau Sefydlog (RhS 15.1) 

 

RHEOL SEFYDLOG 15 Gweithdrefnau Gosod a Chyflwyno

15.1     Caniateir i’r dogfennau canlynol neu’r categorïau canlynol o ddogfennau gael eu gosod gerbron y Cynulliad:

 

(i)         dogfen y mae unrhyw ddeddfiad yn pennu bod yn rhaid ei gosod gerbron y Cynulliad neu y caniateir ei gosod gerbron y Cynulliad neu ddogfen sy’n dod o fewn telerau adran 86 o’r Ddeddf neu baragraffau 36 neu 37 o Atodlen 11 iddi;

 

(ii)       deddfwriaeth neu ddeddfwriaeth arfaethedig neu ddrafft y mae'n ofynnol ei gosod o dan Reolau Sefydlog 25, 26, 26A, 27 neu 28;

 

(iii)      unrhyw adroddiad a wneir gan un o bwyllgorau'r Cynulliad ac y mae'r pwyllgor hwnnw wedi cytuno y dylid ei gyflwyno i'r Cynulliad, ac eithrio unrhyw adroddiad y mae (iv) isod yn gymwys iddo;

 

(iv)      unrhyw ddogfen arall a bennir mewn man arall yn y Rheolau Sefydlog y mae'n ofynnol ei gosod yn unol â'r gofynion penodol mewn Rheol Sefydlog; a

 

(v)        unrhyw ddogfen arall, neu unrhyw gategori arall o ddogfen, y mae'r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gosod, drwy benderfyniad mewn cyfarfod llawn.

 

Diwygio’r Rheol Sefydlog

Diwygir is-bwynt (ii) i gynnwys deddfwriaeth y mae gofyn iddi gael ei gosod yn unol â Rheol Sefydlog 26A fel category o ddogfen i gellir ei gosod gerbron y Cynulliad.